Return to Website

Ask a historical question about Caernarfon

Please ask your historical question below, you can write in either Welsh or English. You will receive your answer in your chosen language.

Please do not ask family history questions, if you are researching your family tree or are trying to find lost relatives, please use the Caernarfon Message Board.

Your questions will be answered by Local Historian T Meirion Hughes

Ask a historical question about Caernarfon
Start a New Topic 
Author
Comment
Reply to HUW

Annwyl Gyfaill,

Ofnaf nad wyf yn gwybod yr ateb i hanes y cwch y cyfeiriwch ato yn y Foryd Fach, ond credaf mai'r lle gorau ichi fynd i wneud ymholiadau yw Swyddfa'r Harbwr ar y Cei Llechi. Mae'n bosib y bydd ganddyn nhw record ohono gan y tybiaf ei fod mewn man y mae ganddynt gyfrifoldeb drosto. Ac onid oes ganddynt efaillai y gallent eich cyfeirio at rywun sydd yn gwybod ei hanes. Da o beth hefyd fyddai holi rhai o hen bysgotwyr y cylch neu Emrys Jones Y Peilot.

Syniad arall fyddai cysylltu hefo un o haneswyr Plwyf Llanfaglan fel Mr. Humphreys Jones y Deintydd neu Mr. Ifor Williams, Llanfaglan.

Pob lwc ar eich gwaith ymchwil ac os y dewch o hyd i'r ateb, balch fyddwn pe baech yn anfon i'r Fforwm unwaith eto.

Cofion,

T Meirion Hughes

Re: Reply to HUW

Diolch yn Fawr Mr.Hughes am y wybodaeth yn eich neges.