Return to Website

Ask a historical question about Caernarfon

Please ask your historical question below, you can write in either Welsh or English. You will receive your answer in your chosen language.

Please do not ask family history questions, if you are researching your family tree or are trying to find lost relatives, please use the Caernarfon Message Board.

Your questions will be answered by Local Historian T Meirion Hughes

Ask a historical question about Caernarfon
Start a New Topic 
Author
Comment
View Entire Thread
Re: Tarddiad Enw Twtil yng Nghaernarfon

Annwyl Gyfaill,

Pan oeddwn yn hogyn yn Ysgol Y Bechgyn, Penrallt Isa, Caernarfon, tua diwedd y 1930au cofiaf fy hen Brifathro, Mr. Pritchard yn rhoi gwers inni ar eich union gwestiwn chi.

Dywedodd ef bod Twtil yn hen iawn ac mai o Ben Twtil roedd yr hen Geltiaid yn cadw llygad allan am elynion yn dynesu o gyfeirad Bae Caernarfon, ac os byddai'r gwylwyr yn amau bod ymosodiad ar ddigwydd, byddent yn trefnu i gorn gael ei ganu i rybuddio'r trigolion.

Galwyd y rhybudd hwn yn MOOT a daeth y fan i gael ei henwi yn MOOT HILL, ond gyda threiglad amser daeth i gael ei hadnabod fel TOOT HILL. Yn y Gymraeg gwnaed un gair ohono sef TWTIL.

Cofion,

T. Meirion Hughes

Re: Tarddiad Enw Twtil yng Nghaernarfon

Annwyl Mr Hughes,

Diolch am eich ymateb.

Mae'n debyg fod eich hen athro yn gywir, os edrychwch ar http://www.indigogroup.co.uk/edge/Toothill.htm, maen't yn cytuno ag ef.

'Roeddwn i yn dyfalu fod cysylltiad yn bosibl a'r arferiad i ddefnyddio y dywediad 'Tu Hwnt i'r Mynydd' mewn enwau lleol. Efallai fod fod Tu Hwnt i'r Hill wedi newid i Twthil?

Cofion,

W Roberts

Re: Tarddiad Enw Twtil yng Nghaernarfon

Diolch ichi am eich ymateb. Wrth gwrs, mae yn 71 o flynyddoedd ers pan oeddwn yn ddisgybl i'r prifathro yn 1938, ond roeddwn yn amau dilysrwydd y Moot Hill.
Mae Kenrick Evans, Hanesydd lleol pwysicaf Caernarfon yn yr 20fed ganrif yn cadarhau mai "lookout post" oedd ar ben Twtil a bod corn yn cael ei ganu mewn argyfwng fel un bod gelyn ar fin ymosod.

Ar y llaw arall, nid dyna ystyr MOOT Hill. Man yn yr awyr iach oedd hwnnw i rai mewn awdurdod yn y gymuned i gyfarfod i drafod. Gwyddoch am y dywediad Saesneg "The idea was first MOOTED..." Hynny yw bod y syniad wedi cael ei roi gerbron (cyfarfod?) am y tro cyntaf.

Yr hyn a gredaf sydd wedi digwydd yw bod yr odl MOOT a TOOT mor debyg fel y bod y trigolion wedi dod i gysylltu'r rhybydd swnllyd (Toot) gyda'r fan ac mai dyna sut y daeth i gael ei adnabod fel Toot Hill a Twtil yn y Gymraeg.

T Meiron Hughes