Return to Website

Ask a historical question about Caernarfon

Please ask your historical question below, you can write in either Welsh or English. You will receive your answer in your chosen language.

Please do not ask family history questions, if you are researching your family tree or are trying to find lost relatives, please use the Caernarfon Message Board.

Your questions will be answered by Local Historian T Meirion Hughes

Ask a historical question about Caernarfon
Start a New Topic 
Author
Comment
Enwau Stryd

Hello Mr. Hughes,
Fedrwch chi ddweud wrthyf beth yw ystyr yr enwau stryd Maes Incla ag Ala Las os gwelwch yn dda ? Diolch, Kevin Jones.

Re: Enwau Stryd

Croeso gyfaill,

Maes Incla i ddechrau. Pan orchfygodd Iorwerth 1af Gymru yn 1283 ar ol marw Llewelyn ein Llyw olaf ar Ragfyr 11 1282, daeth amryw o Normaniaid i Gaernarfon ac yn eu mysg PETER de HINKELE. Apwyntiodd y Brenin ef yn Gwnstable Castell Caernarfon ac yn Faer y Dref yn 1306. Yn ddiweddarach newidiodd ei enw i ffurf mwy Saesnignaidd sef HINKLEY a bu'r teulu yma yn byw yn y dref am rai canrifoedd. Roedd ganddynt dir a galwyd hwnnw gan y Cymry yn Maes Incla.

Ala Las. Credir mai o'r Saesneg "ALLEY" y daw'r gair ALA ac yn y cyswllt yma ei ystyr fyddai FFORDD GUL ac os edrychwch ar y ffordd gul sy'n arwain at y traeth ar draws y ffordd o'r mynediad i Cambell Road fe welwch bod glaswellt yn drwch arni. Felly credir mai FFORDD GUL LASWELLTOG fyddai'r dehongliad cywir o ALA LAS.

Cofion,

T.Merion Hughes