Return to Website

Ask a historical question about Caernarfon

Please ask your historical question below, you can write in either Welsh or English. You will receive your answer in your chosen language.

Please do not ask family history questions, if you are researching your family tree or are trying to find lost relatives, please use the Caernarfon Message Board.

Your questions will be answered by Local Historian T Meirion Hughes

Ask a historical question about Caernarfon
Start a New Topic 
Author
Comment
Muriau Siap 'T' gyferbyn a Lon Coed Helen

Annwyl Mr Hughes,

Ydych chi'n gwybod beth yw'r hanes a defnydd yr hen muriau wedi eu lleoli yn y cae ar yr ochr dde wrth teithio am y foryd ar hyd Lon Coed Helen ( 53° 8'4.34"N 4°16'36.17"W)?

Mae rhai yn dweud eu bod yn hen safle ymarfer saethu, ond yn fy marn i mae'r ansawdd y gwaith cerrig yn rhy urddasol a 'does dim olion bwledi ayyb ar y waliau.

Diolch i chwi am unrhyw wybodaeth,

W Roberts

Re: Muriau Siap 'T' gyferbyn a Lon Coed Helen

Annwyl Gyfaill,

Rydych yn gywir! Codwyd y muriau hyn ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd ar gyfer ymarfer saethu. Roedd yna lawer o filwyr mewn camp dros yr Aber (gyferbyn a'r "Open Air Baths" a adeiladwyd yn 1905, ym mlynyddoedd cynnar y rhyfel a chofiaf milwyr Indiaidd yno tua 1939/1940. Yn ddiweddarach credaf y byddai yr "Home Guard" yn defnyddio'r lle.

Cofion,

T Meirion Hughes

Re: Muriau Siap 'T' gyferbyn a Lon Coed Helen

Diolch yn fawr am eich ymateb trylwyr i'r uchod!

W Roberts