Return to Website

Ask a historical question about Caernarfon

Please ask your historical question below, you can write in either Welsh or English. You will receive your answer in your chosen language.

Please do not ask family history questions, if you are researching your family tree or are trying to find lost relatives, please use the Caernarfon Message Board.

Your questions will be answered by Local Historian T Meirion Hughes

Ask a historical question about Caernarfon
Start a New Topic 
Author
Comment
Cwellyn

Kia Ora Meirion
Rwyf yn trio cael gwmpas o hanes Ty Cwellyn Ffordd Llanberis cyn iddo gael i wneud yn swyddfa i Gwyrfai.Hefyd rwyf yn trio dyllat pam oedd ei alw felly a oes cyllystiad gyda chewch llyn ?
Cofion gorau a rhaid i mi ddweud unwaith eto bod eich web yn ddiddorol arbennig
Alwyn

Re: Cwellyn

Annwyl Alwyn,Diolch am yr ymholiad parthed Cwellyn.I ddechrau a gaf fi ddweud nad Chwe Llyn yw'r ystyr a roddwyd imi beth amser yn ol ond CAWELL-LYN ac ar lafar bod hynny wedi mynd yn CWELLYN. Cawell yn yr un ystyr a'r gawell y rhoddwyd Moses ynddo yn fabi os cofiwch yr hanes. Tybiaf mai cyfeirio at y rhai oedd yn pysgota ar y llyn mewn cewyll. Rhywbeth tebyg i'r CWRWGL yn Sir Aberteifi.Gofynnwch hefyd beth oedd eich hen gartref cyn i Gyngor Gwyrfai ei gymryd drosodd. Wel, yr unig beth a allaf ddweud wrthych may Plasdy Gwrbonheddig oedd yno yn ol map o'r dre dyddiedig Circa 1800 ac enw'r dyn oedd yn byw yno oedd David Williams. Cofiaf imi glywed rhywyn yn dweud mai Y Parch David Williams ydoedd ond ni allaf ddweud pa'r un ai Eglwyswr neu Gapelwr ydoedd.Rwyn gobeithio y bydd yr uchod o help ichi.Cofion,Meirion