Return to Website   
Ask a historical question about Caernarfon

Please ask your historical question below, you can write in either Welsh or English. You will receive your answer in your chosen language.

Please do not ask family history questions, if you are researching your family tree or are trying to find lost relatives, please use the Caernarfon Message Board.

Your questions will be answered by Local Historian T Meirion Hughes



Return to Website

  Reply
  Home

Subject:   Re: Enwau strydoedd/lonydd
Name:   T. Meirion Hughes
Date Posted:   Jan 2, 08 - 10:33 AM
Email:   TMHughes'Cofis.co.uk
Message:   Annwyl Gyfaill,

Diolch am y cwestiynnau am yr enwau Northgate Street a Stryd Pedwar a Chwech. Northgate Street i ddechrau; mae hon fel y gwyddoch o fewn Waliau'r Dref a orffennwyd yn 1290 ac nid oedd mynedfa i fewn i'r stryd bryd hynny a rhywbryd tua 1820 y gwnaed mynedfa i'r stryd trwy dorri twll yn y wal. Yr enw ar y stryd oedd Stryd y Plas neu Palace Street gan ei bod, cyn creu mynedfa, yn rhan o Palace Street. Roedd Stryd y Plas/Palace Street on rhedeg o Bendeitsh i lawr hyd at y fynedfa, hynny yw un stryd ac nid dwy.

Cafodd Stryd Pedwar a Chwech yr enw Cymraeg am fod tafarn o'r enw Four Shillings and Six Pence yn bodoli yn Northgate Street ar un adeg ac roedd yn rhan o'r dafarn a elwir yn Black Boy heddiw. Dwy dafarn oedd yno ar un adeg sef rhif 7 a rhif 9 Northgate Street.

Yn fyr dyna'r esboniad er fod llawer mwy o hanes i'r Black Boy na hynny.

Cofion,

T Meirion Hughes
Replies:    
Re: Palace Vaults Hotel by Raymond king · Feb 19, 08 - 4:14 AM
Re: Re: Palace Vaults Hotel by T Meirion Hughes · Feb 19, 08 - 6:52 PM
Re: Re: Re: Palace Vaults Hotel by Raymond King · Feb 19, 08 - 8:45 PM
Re: Re: Re: Re: Palace Vaults Hotel by T Meirion Hughes · Feb 19, 08 - 9:03 PM
Re: Re: Re: Re: Re: Palace Vaults Hotel by Raymond King · Feb 19, 08 - 11:52 PM
Re: Re: Re: Re: Palace Vaults Hotel by T Meirion Hughes · Feb 25, 08 - 12:52 PM


  Reply
  Home


powered by Powered by Bravenet bravenet.com